Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Ionawr 2021
Amser:
09.15 -
13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11107
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Meilyr Rowlands, Estyn Claire Morgan, Estyn Jassa Scott, Estyn Eithne Hughes, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru) Laura Doel, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon Cymru (NAHT) Rebecca Williams, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Mary van den Heuvel, Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) Neil Butler, The National Association of Schoolmasters Union of Women Teachers (NASUWT) Rosie Lewis, Unsain Nicola Savage, GMB |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS, nid oedd dirprwy ar ei ran.
2 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 - 2020 (i gynnwys materion yn ymwneud ag effaith COVID-19 ar addysg)
2.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith Estyn ynghylch ei Adroddiad Blynyddol, ac ar faterion yn ymwneud ag effaith COVID-19.
2.2 Oherwydd diffyg amser, cwtogwyd y cwestiwn ar flynyddoedd cynnar, gwahoddwyd Estyn i ddarparu ymateb ysgrifenedig mwy llawn, pe dymunent.
3 Sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar addysg gyda chynrychiolwyr o'r undebau llafur.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r undebau llafur.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Estyn 2019 – 2020 a COVID-19: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.
7 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Trefn Ystyried – cytundeb cyn trafodion Cyfnod 2
7.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd yn ysgrifenedig ar drefniadau ar gyfer trafodion rhithwir Cyfnod 2 a'r Drefn Ystyried ar gyfer Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), y tu allan i'r Pwyllgor.
8 Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor
8.1 Bu’r
Aelodau'n trafod y flaenraglen waith.
9 Addysg Heblaw yn yr Ysgol – trafod yr adroddiad drafft [GOHIRIWYD]